Croeso i Gymru! Welcome to Wales!
The first Welsh words most people see on entering Wales are Croeso i Gymru! Welcome to Wales! The sign isn’t a tourist gimmick or a nod to a historic language, Welsh is a living language spoken by nearly 20% of the population and its popularity is on the rise. The ‘Cool Cymru’ generation has bloomed.
Visitors to Llanbedrog and Abersoch will be used to hearing the Welsh language being spoken in and around the towns and villages of the Lleyn Peninsula as 65% of people in the county of Gwynedd speak Welsh. Bilingualism is a natural part of life in Gwynedd, the Welsh language and its preservation is important, not only to locals and visitors alike. Knowing just a few words can enrich understanding of, and engagement with, the Welsh culture that embodies this proud country.
So, whilst you are staying or visiting the local area why not try out a few words.
Bore da! – Good morning!
Sut dach chi? – How are you?
Da iawn – Very good.
Diolch yn fawr – Thank you.
Iechyd da! – Cheers!
Nos da! – Good Night!
If you want to learn a little more then Welsh language classes are more accessible and affordable than ever. Apps such as Duolingo and SaySomethinginWelsh provide a great introduction to the language and numerous courses are available, see gov.wales and learnwelsh.cymru for more details.
One of the best ways to immerse yourself in Welsh Culture is to visit the stunning Nant Gwrtheyrn, the Welsh Language and Heritage Centre, which lies on the North Coast of the Lleyn Peninsula. Lying on the site of a traditional quarrying village the centre offers accommodation, a licenced café and restaurant, shops, language courses and you can even get married here. We love the Sunday Lunch and the Welsh Rarebit made with locally brewed beer from Cwrw Llyn in nearby Nefyn.
So, we not only look forward to seeing you soon but also hearing you try a little bit of Welsh!
Croeso i Gymru! Welcome to Wales!
Y geiriau Cymraeg cyntaf y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu gweld wrth ddod i Gymru yw Croeso i Gymru! Nid gimig i dwristiaid neu gyfeiriad at iaith hanesyddol mo’r arwydd, mae’r Gymraeg yn iaith fyw a siaredir gan bron i 20% o’r boblogaeth ac mae ei phoblogrwydd ar gynnydd. Mae cenhedlaeth ‘Cool Cymru’ wedi blodeuo.
Bydd ymwelwyr â Llanbedrog ac Abersoch wedi arfer clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn nhrefi a phentrefi Pen Llŷn ac o’u cwmpas gan fod 65% o bobl Sir Gwynedd yn siarad Cymraeg. Mae dwyieithrwydd yn rhan naturiol o fywyd yng Ngwynedd, mae’r iaith Gymraeg a’i chadwraeth yn bwysig, nid yn unig i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Gall gwybod dim ond ychydig eiriau gyfoethogi dealltwriaeth o’r diwylliant Cymreig sy’n ymgorffori’r wlad falch hon, a chyfoethogi ymgysylltiad â hi.
Felly, tra byddwch yn aros neu’n ymweld â’r ardal leol beth am roi cynnig ar ychydig eiriau.
Bore da! – Good morning!
Sut dach chi? – How are you?
Da iawn – Very good.
Diolch yn fawr – Thank you.
Iechyd da! – Cheers!
Nos da! – Good Night!
Os ydych chi eisiau dysgu ychydig mwy, mae dosbarthiadau Cymraeg yn fwy hygyrch a fforddiadwy nag erioed. Mae apiau fel Duolingo a SaySomethinginWelsh yn rhoi cyflwyniad gwych i’r iaith ac mae nifer o gyrsiau ar gael, gweler llyw.cymru a dysgucymraeg.cymru am ragor o fanylion.
Un o’r ffyrdd gorau o ymgolli yn niwylliant Cymru yw ymweld â Nant Gwrtheyrn, Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, sydd ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Wedi’i lleoli ar safle pentref chwarelyddol traddodiadol mae’r ganolfan yn cynnig llety, caffi a bwyty trwyddedig, siopau, cyrsiau iaith a gallwch hyd yn oed briodi yma. Rydym wrth ein bodd gyda’r Cinio Sul a’r Caws Pob wedi ei wneud gyda chwrw lleol o Cwrw Llyn yn Nefyn gerllaw.
Felly, rydym nid yn unig yn edrych ymlaen at eich gweld yn fuan, ond hefyd eich clywed yn rhoi cynnig ar ychydig bach o Gymraeg!