For all of us, the Coronavirus Pandemic has dramatically changed the way we live our lives in the short term. Whilst we all hope our lives will return to normality, there are some aspects of lockdown living that will have become part of our ‘new normal’ which we are not keen to relinquish! For many of us, we have rediscovered walking in our local areas and exploring and enjoying what is on our doorsteps.
At the start of the pandemic many of us were keen to get out walking each day as part of our daily lockdown exercise allowance but now it has become a wellness essential. In 2009, a study showed that it takes 66 days for a new habit to form and become ingrained into our daily routine, far less time than any UK resident has spent in lockdown.
So, when you can visit Llanbedrog and the Lleyn Peninsula, you can easily continue your daily walks and enjoy this spectacular area. The well-managed Wales Coastal Path weaves in and out of sandy beaches, craggy coves, rocky headlands, and shady woods for 180 kilometres of the simply stunning Lleyn Peninsula coastline and is a great place to start your adventures.
From Tremfan Lodge Park
Our favourite walks start right on Tremfan Lodge’s doorstep. From Llanbedrog take a 5km walk into the pretty market town of Pwllheli. Join the Coastal Path from either Llanbedrog beach or Cerrig y Defaid beach for this relatively flat and easy stroll. Best enjoyed in the early morning or late afternoon, breathe in the sea air, see the golfers teeing off at Pwllheli Golf Club, then guiltlessly indulge in a late breakfast or fish and chips in Pwllheli. Once refreshed, retrace your steps back along the coast or, if you are done for the day, hop on the number 17 or 18 bus home and stop for a final tipple at Llanbedrog Beach Bar, the Glyn y Weddw or The Ship!
It is not all about food and drink stops but they often feature in our favourite walks, like the walk into Abersoch. From Llanbedrog beach climb over the headland, drop down into Tal y Fan or along the Quarry Road and join the long sandy Warren beach which goes on for miles! Sample a well-earned drink on the beach at the Warren Sandbar or head into Abersoch to enjoy the host of classy cafes and tasty takeaways. Again, retrace your sandy steps, walk along the road, or hop on the number 18 bus back to the Spar in Llanbedrog.
Around the Lleyn Peninsula
Away from Llanbedrog, one of our owner’s favourite escapes is rambling from Cilan Headland down to Porth Neigwl (Hells Mouth). Pass by the wild horses and be amazed at the sight of the vast sweeping beach beneath, the surfers waiting patiently to ride the next curling wave and the mysterious Bardsey Island in the distance. Truly breath-taking! This more remote coastal route needs you to take your own flask and picnic but please always follow the Countryside Code.
Our final favourite is along the more rugged North Coast of the Lleyn Peninsula. The Ty Coch, at Porthdinllaen, is one of the most popular and well-known beach bars in Wales and usually approached via pedestrian access through Nefyn Golf Club.
Our preferred route is a longer but rewarding 6.5km walk! Head to Nefyn village and starting the walk on Nefyn beach via the beach road or through Aberafon Holiday Park. Walk along the stunning Nefyn and Morfa Nefyn beaches and imbibe the ambiance of the traditional fishing villages and endless sea views. The Ty Coch provides a notorious beach side refreshment stop or wander into the welcoming The Cliffs at Morfa Nefyn. The North Coast enjoys spectacular sunsets and, on a clear day, you may catch a glimpse of the distant Irish shores.
Whenever you next chose to come to the Lleyn Peninsula, and whatever you chose to do, make sure you enjoy the natural beauty, breathe in the sea air and soak up some Welsh sunshine.
Cerdded allan o’r Cyfnod Clo!
I bob un ohonom, mae’r Pandemig Coronafeirws wedi newid y ffordd rydym yn byw ein bywydau yn y tymor byr yn ddramatig. Er ein bod ni i gyd yn gobeithio y bydd ein bywydau yn dychwelyd i normalrwydd, mae rhai agweddau ar fyw dan glo fydd wedi dod yn rhan o’n ‘normal newydd’ nad ydym yn awyddus i’w colli! I lawer ohonom, rydym wedi ailddarganfod cerdded yn ein hardaloedd lleol ac archwilio a mwynhau’r hyn sydd ar garreg ein drws.
Ar ddechrau’r pandemig roedd llawer ohonom yn awyddus i fynd allan i gerdded bob dydd fel rhan o’n lwfans ymarfer corff dyddiol ond erbyn hyn mae wedi dod yn hanfodol i’n lles.
Yn 2009, dangosodd astudiaeth ei bod yn cymryd 66 diwrnod i arfer newydd ffurfio a dod yn rhan o’n trefn ddyddiol, llawer llai o amser nag y mae unrhyw un o drigolion y DU wedi’i dreulio mewn cyfnod clo.
Felly, pan allwch ymweld â Llanbedrog a Phenrhyn Llŷn, gallwch barhau â’ch teithiau dyddiol yn hawdd a mwynhau’r ardal ysblennydd hon. Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy’n cael ei reoli’n dda, yn plethu i mewn ac allan o draethau tywodlyd, creigiau y cildraethau, pentiroedd creigiog, a choedwigoedd cysgodol am 180 cilomedr o arfordir trawiadol Penrhyn Llŷn ac mae’n lle gwych i ddechrau eich anturiaethau.
O Barc Tremfan Lodge
Mae ein hoff deithiau cerdded yn cychwyn ar stepen drws Tremfan Lodge. O Lanbedrog ewch ar daith gerdded 5km i dref farchnad brydferth Pwllheli. Ymunwch â Llwybr yr Arfordir naill ai o draeth Llanbedrog neu draeth Cerrig y Defaid am y daith gerdded gymharol wastad a hawdd hon. Y peth gorau i’w fwynhau yn y bore neu ddiwedd y prynhawn, anadlu awyr y môr, gweld y golffwyr yn pytio’r peli yng Nghlwb Golff Pwllheli, yna ymroi heb unrhyw euogrwydd i gael brecwast hwyr neu bysgod a sglodion ym Mhwllheli. Ar ôl cael eich adfywio, dilynwch eich llwybr yn ôl ar hyd yr arfordir neu, os ydych wedi gorffen am y diwrnod, neidiwch ar fws rhif 17 neu 18 adref a stopiwch am y tro olaf yn Y Gali ar draeth Llanbedrog, Glyn y Weddw neu Y Llong!
Nid egwyl am fwyd a diod yw’r cyfan, ond maent yn aml yn ymddangos yn ein hoff deithiau cerdded, fel y daith gerdded i mewn i Abersoch. O draeth Llanbedrog dringwch dros y pentir, yna disgyn i lawr i Dal y Fan neu ar hyd Ffordd y Chwarel ac ymunwch â thraeth hir tywodlyd Warren sy’n mynd ymlaen am filltiroedd! Blaswch ddiod haeddiannol ar y traeth yn y Warren Sandbar neu ewch i Abersoch i fwynhau’r llu o gaffis clasurol a siopau tecawê blasus. Unwaith eto, ewch yn ôl ar hyd eich llwybr tywodlyd, cerddwch ar hyd y ffordd, neu neidiwch ar fws rhif 18 yn ôl i’r Spar yn Llanbedrog.
O amgylch Penrhyn Llŷn
I ffwrdd o Lanbedrog, un o hoff ddihangfeydd ein perchennog yw crwydro o Bentir Cilan i lawr i Borth Neigwl. Ewch heibio’r ceffylau gwyllt a chewch eich rhyfeddu wrth weld y traeth ysgubol enfawr oddi tano, y syrffwyr yn aros yn amyneddgar i farchogaeth y don gyrliog nesaf ac Ynys Enlli yn ddirgel yn y pellter. Yn wirioneddol syfrdanol! Mae’r llwybr arfordirol mwy anghysbell hwn yn gofyn i chi gymryd eich fflasg a’ch picnic eich hun ond dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.
Ein ffefryn olaf yw ar hyd Arfordir Gogleddol mwy garw Penrhyn Llŷn. Y Tŷ Coch, ym Mhorthdinllaen, yw un o’r bariau traeth mwyaf poblogaidd ac adnabyddus yng Nghymru ac fel arfer mae mynediad i gerddwyr drwy Glwb Golff Nefyn.
Y llwybr a ffefrir gennym yw taith gerdded 6.5km hirach ond gwerth chweil! Ewch i bentref Nefyn a chychwyn y daith gerdded ar draeth Nefyn ar hyd ffordd y traeth neu drwy Barc Gwyliau Aberafon. Cerddwch ar hyd traethau ysblennydd Nefyn a Morfa Nefyn a mwynhewch awyrgylch y pentrefi pysgota traddodiadol a’r golygfeydd diddiwedd o’r môr.
Mae Tŷ Coch yn darparu lle sy’n adnabyddus i stopio am luniaeth ar y traeth neu gallwch grwydro i mewn i fwyty croesawgar The Cliffs ym Morfa Nefyn. Mae Arfordir y Gogledd yn mwynhau machlud ysblennydd ac, ar ddiwrnod clir, efallai y cewch gipolwg ar lannau pell Iwerddon.
Pryd bynnag y dewiswch ddod i Benrhyn Llŷn nesaf, a beth bynnag y dewiswch ei wneud, gwnewch yn siŵr eich bod yn mwynhau’r harddwch naturiol, yn anadlu awyr y môr ac yn cymryd ychydig o heulwen Gymreig i mewn.