Twitching at Tremfan Lodge Park
With an abundance of woodlands, shrubs, hedges, grass, and plants we are pleased that Tremfan Lodge Park is home to, not only 20 unique lodges but also, much wildlife. With a clear planting scheme set under the guidance of Peter, our groundsman, we continue to develop the park to ensure our owners and wildlife can harmoniously co-habit. Birds always rank highly amongst our most popular inhabitants and visitors so whilst you are in and around Tremfan Lodge Park why not look out for some of our favourite feathered friends.
Great-Spotted Woodpecker
The likelihood is that you will hear this medium sized black and white woodpecker before you see it. The great-spotted woodpecker with its strong beak and shock-absorbing head drums against the trees to communicate, dig out insects and larvae to and make a nest. You can find them in the woodlands at Tremfan Lodge Park but if you are lucky, they occasionally pop down to the bird feeders to see what our owners have left out for them.
Nuthatch
If you see a rather eccentric grey and rust coloured bird with a black stripe around its eyes climbing headfirst down tree trunks then it’s likely to be the nuthatch. This compact and stocky bird looks like Zorro and moves like Spiderman! Thanks to its strong toes, it is the only British bird that can zip both up and down tree trunks. As well as the distinct movement, nuthatches can be noisy neighbours. They use their distinct voice to ward off other birds and call to each other, and their strong beaks to crack nuts and seeds and remove bark to reveal hidden invertebrates.
Pied Wagtail
Rather than looking up at the trees for birds or on the feeders, look down at our lawn and car park areas. Here you will often see a pied wagtail looking for insects, worms, seeds, and larvae. Unsurprisingly, you can spot them by their frantically wagging black and white tails as they move sprightly around the ground. If you look over our fences into our neighbouring fields there are often cattle grazing. Pied wagtails can be seen following the cattle or will even perched on the back of a passing cow as they make the most of the surrounding insects.
Peregrine Falcon
Flying at 300km, this large powerful bird of prey is the fastest animal but you won’t need to be that fast to spot one. These falcons can be seen sitting high up waiting patiently to make their assault on their prey below. As they swoop down their long wide blue grey pointed wings, barbed body, white chin, and neck look unique in flight. Their bright yellow talons and beak do their work on the unsuspecting wading birds, pigeons, and small birds below. Watch them flying elegantly between Tremfan Lodge Park and Llanbedrog Headland as they scan the coastal landscape below.
With so many coastal birds in Llanbedrog and around the Llyn Peninsula, we are sure you will be able to spot all these and many more outstanding bird species. For more information check out the National Trust Guide to Birdsong and Bird Spotting and the RSPB Guide to Bird Watching.
Gwylio natur ym Mharc Tremfan Lodge!
Am fod yma ddigonedd o goetiroedd, llwyni, gwrychoedd, glaswellt a phlanhigion mae’n destun balchder gennym fod Parc Tremfan Lodge yn gartref, nid yn unig i 20 caban gwyliau unigryw ond hefyd i lawer iawn o fywyd gwyllt. Gyda chynllun plannu clir o dan arweiniad Peter, sy’n gofalu am dir y parc, rydyn ni’n parhau i ddatblygu’r parc i sicrhau y gall ein perchnogion a bywyd gwyllt gyd-fyw’n gytûn. Mae’r adar sy’n byw yn y parc ac sy’n ymweld â ni bob amser yn boblogaidd iawn felly tra byddwch chi ym Mharc Tremfan Lodge a’r cyffiniau beth am gadw llygad am rai o’n hoff adar.
Y Gnocell Fraith Fwyaf
Yn fwy na thebyg, byddwch yn clywed y gnocell ddu a gwyn ganolig ei maint yma cyn i chi ei gweld. Mae’r gnocell fraith fwyaf gyda’i phig cryf a’i phen cryf yn cnocio yn erbyn y coed i gyfathrebu, chwilio am bryfed a larfa a gwneud nyth. Gallwch ddod o hyd iddynt yn y coetiroedd ym Mharc Tremfan Lodge ond os ydych chi’n lwcus, maen nhw’n dod at y bwydwyr adar o bryd i’w gilydd i weld beth mae ein perchnogion wedi’i adael allan ar eu cyfer.
Telor y Cnau
Os gwelwch chi aderyn lliw llwyd a choch golau eithaf ecsentrig gyda streipen ddu o amgylch ei lygaid yn dringo boncyffion coed â’i ben i lawr yna mae’n debyg mai telor y cnau ydi o. Mae’r aderyn bach siapus yma’n edrych fel Zorro ac yn symud fel Spiderman! Diolch i’w fysedd traed cryf, dyma’r unig aderyn ym Mhrydain sy’n gallu gwibio i fyny ac i lawr boncyffion coed. Yn ogystal â’r ffordd arbennig y maen nhw’n symud, gallan nhw fod yn gymdogion swnllyd. Maen nhw’n defnyddio eu llais arbennig i gadw adar eraill draw ac i alw ar ei gilydd, ac yn defnyddio eu pigau cryf i agor cnau a hadau a chodi rhisgl i gael at yr infertebratau sy’n cuddio oddi tano.
Siglen Fraith
Yn hytrach nag edrych i fyny am adar yn y coed neu ar y bwydwyr, edrychwch i lawr ar ein lawnt a’n meysydd parcio. Yma yn aml fe welwch siglen fraith yn chwilio am bryfed, mwydod, hadau a larfa. Fel yr awgryma’r enw, gallwch eu hadnabod wrth eu cynffonau du a gwyn sy’n siglo’n wyllt wrth iddynt symud yn fywiog ar hyd y llawr. Os edrychwch chi dros ein ffensys i’n caeau cyfagos, yn aml mae gwartheg yn pori. Gellir gweld y siglen fraith yn dilyn y gwartheg neu hyd yn oed ar gefn buwch sy’n mynd heibio wrth iddynt wneud y mwyaf o’r pryfed o’u cwmpas.
Hebog Tramor
Yr aderyn ysglyfaethus mawr pwerus yma, sy’n hedfan ar gyflymder o 300km, yw’r anifail cyflymaf ond fydd dim angen i chi fod mor gyflym â hynny i weld un. Gellir gweld yr hebogau yma’n eistedd yn uchel i fyny yn aros yn amyneddgar i ymosod ar eu hysglyfaeth. Wrth iddynt blymio i lawr, mae eu hadenydd llwyd, pigfain, hir a llydan, eu corff bachog, gên wen, a’u gwddf yn olygfa unigryw. Mae eu crafangau melyn llachar a’u pig yn cipio’r adar rhydio’n ddiarwybod, a’r colomennod a’r adar bach islaw. Gwyliwch nhw’n hedfan yn osgeiddig rhwng Parc Tremfan Lodge a Phentir Llanbedrog wrth iddynt syllu ar y dirwedd arfordirol islaw.
Gyda chymaint o adar arfordirol yn Llanbedrog ac o amgylch Pen Llŷn, rydyn ni’n siŵr y byddwch yn gallu gweld yr holl rywogaethau adar yma a llawer mwy. I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar Ganllaw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ganeuon Adar a Gwylio Adar a Chanllaw’r RSPB ar Wylio Adar.