We are so fortunate that Tremfan Lodge Park has both a unique woodland setting and panoramic sea views. There are few caravan parks in North Wales that can offer these natural environments and, in 2020, we have taken time to enhance this natural beauty around the park. Our groundsman and gardener, Peter, has been making significant improvements with a scheduled planting scheme specific to the park. You will see some new plants and shrubs popping up on site and may spot the following.
- Hydrangeas – Hydrangeas have long been a feature at Tremfan Lodge Park and Tremfan Hall. Thriving in the coastal soil and hardy to the salt air, they bloom from mid-summer right through to the end of the year bringing colour and volume. Peter has propagated his own hydrangeas and introduced new varieties that we hope to see in full bloom in 2021.
- Daffodils – Hundreds of Dutch Masters daffodils, also known as King Alfred’s, have been planted across the park. The classic yellow trumpet shape daffodils flower in early to mid-spring bringing colour that clearly signifies the beginning of the season.
- Heathers – We have planted summer and winter varieties of these low growing evergreen shrubs around the entrance to the park and in rockery areas. Heathers give natural coverage and colour and have been an inspiration for the colours used in the Tremfan Lodge Park brand.
- Vinca Minors – Flowering in different shades from pale blues to deep violet, these evergreens have been planted at the entrance and across the rockeries on site. Vinca Minors give bountiful yet delicate ground coverage and burst with colour in our main season from April to September.
- Lampranthus – Meaning ‘shining flower’ due to the bright and unusual colour they bring between June and August, these hardy succulents love borders and rockeries and will be resilient to Llanbedrog’s coastal salt air. We are hoping to see vibrant deep purple flowers, but they can often bare bicolour leaves so we will have to see what June 2021 brings!
If you want to see more about our planting scheme and the landscaping improvements, we are making at Tremfan Lodge Park then check out our Facebook and Instagram pages. If the flora and fauna of the Lleyn Peninsula grabs your botanical attention and you want to know more then visit the National Garden Scheme website. Here you will find a list of properties in Llanbedrog, Abersoch, and across the wider Lleyn Peninsula that open to the public and display stunning local gardens.
Cynllun Plannu Parc Tremfan Lodge 2020
Rydym mor ffodus bod gan Barc Tremfan Lodge leoliad unigryw mewn coetir ond â golygfeydd panoramig o’r môr. Ychydig o barciau carafanau yng Ngogledd Cymru a all gynnig yr amgylcheddau naturiol hyn ac, yn 2020, rydym wedi cymryd amser i ychwanegu at yr harddwch naturiol hwn o amgylch y parc. Mae ein tirmon a’n garddwr, Peter, wedi bod yn gwneud gwelliannau sylweddol gyda chynllun plannu wedi’i drefnu yn benodol ar gyfer y parc. Fe welwch rai planhigion a llwyni newydd yn ymddangos ar y safle ac efallai y byddwch chi’n gweld y canlynol.
- Blodau Seithliw – Mae llwyni seithliw wedi bod yn nodwedd o Barc Tremfan Lodge a Neuadd Tremfan ers amser maith. Maent yn ffynnu yn y pridd arfordirol ac yn gallu gwrthsefyll yr halen yn yr aer, maent yn blodeuo o ganol yr haf hyd at ddiwedd y flwyddyn gan ddod â lliw a llawnder. Mae Peter wedi meithrin ei flodau seithliw ei hun ac wedi cyflwyno mathau newydd yr ydym yn gobeithio eu gweld yn llawn blodau yn 2021.
- Cennin Pedr – Mae cannoedd o gennin Pedr Dutch Masters, a elwir hefyd yn fath Brenin Alfred, wedi’u plannu ar draws y parc. Mae’r cennin Pedr siâp trymped melyn clasurol yn blodeuo yn gynnar yn y gwanwyn hyd ei ganol gan ddod â lliw sy’n nodi dechrau’r tymor yn glir.
- Grugoedd – Rydym wedi plannu mathau haf a gaeaf o’r llwyni bytholwyrdd hyn sy’n tyfu’n isel o amgylch y fynedfa i’r parc ac yn y gwelyau creigiog. Mae grugoedd yn cynnig gorchudd a lliw naturiol ac maent wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r lliwiau a ddefnyddir ym mrand Parc Tremfan Lodge.
- Vinca Minors – Yn blodeuo mewn gwahanol liwiau o las golau i fioled cryf, mae’r planhigion bytholwyrdd hyn wedi’u plannu wrth y fynedfa ac ar draws y gwelyau creigiog ar y safle. Mae Vinca Minors yn cynnig gorchudd swmpus ond eto yn ysgafn ac yn llawn lliw yn ein prif dymor o fis Ebrill i fis Medi.
- Lampranthus – Sy’n golygu ‘blodyn disglair’ oherwydd y lliw llachar ac anghyffredin sydd iddynt rhwng Mehefin ac Awst, mae’r planhigion suddlon gwydn hyn wrth eu bodd mewn gwelyau a gwelyau creigiog a gallant wrthsefyll yr halen sy’n aer yr arfordir yn Llanbedrog. Rydym yn gobeithio gweld blodau porffor tywyll bywiog, ond yn aml gallant fod â dail deuliw felly bydd yn rhaid i ni weld beth ddaw Mehefin 2021!
Os ydych chi eisiau gweld mwy am ein cynllun plannu a’r gwelliannau tirlunio yr ydym yn eu gwneud ym Mharc Tremfan Lodge yna edrychwch ar ein tudalennau Facebook ac Instagram. Os yw fflora a ffawna Penrhyn Llŷn o ddiddordeb a’ch bod am wybod mwy yna ewch i wefan y Cynllun Gardd Cenedlaethol. Yma fe welwch restr o fannau yn Llanbedrog, Abersoch, ac ar draws Penrhyn Llŷn sy’n agor i’r cyhoedd ac yn arddangos gerddi lleol syfrdanol.