Getting Involved
At Tremfan Lodge Park we are always keen to look for ways to improve our site, support our local wildlife, increase our sustainability, and reduce our environmental impact. Autumn is now our time for planning and planting and creating wildlife friendly micro-environments by planting native plants and embarking on sustainable projects. To help us shape our projects and plans we are getting involved with 2 key initiatives over the remainder of 2021 and 2022.
David Bellamy’s Blooming Marvellous Pledge for Nature
The David Bellamy Conservation Award Scheme has helped holiday parks ‘go green’ for over 25 years. After the Covid-19 lockdowns, the scheme returned to its roots and launched David Bellamy’s Blooming Marvellous Pledge for Nature. This exciting new initiative works closely with holiday parks, setting achievable wildlife challenges and allowing parks such as Tremfan Lodge Park to commit and demonstrate what we are doing to look after the local environment and wildlife in a responsible way.
So, we have signed up to the David Bellamy’s Blooming Marvellous Pledge for Nature for 2022 and are committing to:
- improving our existing habitats for wildlife
- creating new wildlife habitats and features where possible
- managing our green space in as environmentally friendly a way as possible
- involving our guests and staff in wildlife conservation
- engaging with local conservation bodies and projects.
Whilst Tremfan Lodge Park remains a small park, we know we still have a part to play in sustaining and improving the grounds and the surrounding environment. Peter, our groundsman, already plays a key role in the sites sustainability but we will also be supported by on-park visits from a wildlife expert that who will provide further advice and information.
The Queen’s Green Canopy
We are also pleased to be involved in the Plant a Tree for the Jubilee as part of The Queen’s Green Canopy, a unique tree planting initiative created to mark Her Majesty’s Platinum Jubilee in 2022.
Starting on the 1st October, The Queen’s Green Canopy is a nationwide drive to plant trees where individuals, groups, businesses, and whole towns and cities will plant thousands of trees to mark The Queen’s Jubilee.
At Tremfan Lodge Park we will be planting native trees on site which give significant wildlife benefits on site and we can’t wait to share more details with you.
Updates
As we receive more details of the challenges and complete our planting, we will update you through our Park News, Facebook, Instagram, and Twitter Pages.
Cymryd Rhan
Ym Mharc Tremfan Lodge rydym bob amser yn awyddus i chwilio am ffyrdd i wella ein safle, cefnogi ein bywyd gwyllt lleol, cynyddu ein cynaliadwyedd, a lleihau ein heffaith amgylcheddol. Yr hydref bellach yw ein hamser ar gyfer cynllunio a phlannu a chreu micro-amgylcheddau sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt trwy blannu planhigion cynhenid a chychwyn ar brosiectau cynaliadwy. Er mwyn ein helpu i lunio ein prosiectau a’n cynlluniau, rydym yn cymryd rhan mewn 2 fenter allweddol dros weddill 2021 a 2022.
Addewid Rhyfeddol Natur David Bellamy
Mae Cynllun Gwobr Cadwraeth David Bellamy wedi helpu parciau gwyliau i ‘fynd yn wyrdd’ ers dros 25 mlynedd. Ar ôl cyfnodau clo Covid-19, dychwelodd y cynllun at ei wreiddiau a lansio Addewid Rhyfeddol Natur David Bellamy. Mae’r fenter newydd gyffrous hon yn gweithio’n agos gyda pharciau gwyliau, gan osod heriau bywyd gwyllt cyraeddadwy a chaniatáu i barciau fel Parc Tremfan Lodge ymrwymo a dangos yr hyn yr ydym yn ei wneud i edrych ar ôl yr amgylchedd lleol a bywyd gwyllt mewn ffordd gyfrifol.
Felly, rydym wedi ymuno ag Addewid Rhyfeddol Natur David Bellamy ar gyfer 2022 ac rydym yn ymrwymo i:
- wella ein cynefinoedd presennol ar gyfer bywyd gwyllt
- creu cynefinoedd a nodweddion bywyd gwyllt newydd lle bo hynny’n bosibl
- rheoli ein rhannau gwyrdd mewn ffordd mor gyfeillgar i’r amgylchedd â phosibl
- cynnwys ein gwesteion a’n staff mewn cadwraeth bywyd gwyllt
- ymgysylltu â chyrff a phrosiectau cadwraeth lleol.
Er bod Parc Tremfan Lodge yn parhau i fod yn barc bach, gwyddom fod gennym ran i’w chwarae o hyd o ran cynnal a gwella’r tiroedd a’r amgylchedd cyfagos. Mae Peter, ein tirmon, eisoes yn chwarae rhan allweddol yng nghynaliadwyedd y safle ond byddwn hefyd yn cael ein cefnogi gan ymweliadau ar y parc gan arbenigwr bywyd gwyllt a fydd yn rhoi cyngor a gwybodaeth bellach.
Canopi Gwyrdd y Frenhines
Rydym hefyd yn falch o fod yn rhan o’r cynllun Plannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî fel rhan o Ganopi Gwyrdd y Frenhines, sef menter plannu coed unigryw a grëwyd i nodi Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi yn 2022.
Gan ddechrau ar 1 Hydref, mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn ymgyrch ledled y wlad i blannu coed lle bydd unigolion, grwpiau, busnesau, a threfi a dinasoedd cyfan yn plannu miloedd o goed i nodi Jiwbilî’r Frenhines.
Ym Mharc Tremfan Lodge byddwn yn plannu coed brodorol ar y safle sy’n dod â buddion bywyd gwyllt sylweddol i’r parc ac edrychwn ymlaen yn fawr at rannu mwy o fanylion â chi.
Diweddariadau
Wrth i ni dderbyn mwy o fanylion am yr heriau a chwblhau ein plannu, byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi drwy ein Park News, Facebook