Mae gan Ben Llŷn fwy na 100 milltir o arfordir a rhai o draethau gorau Gogledd Cymru ynghyd â childraethau creigiog, pentiroedd gyda baeau cudd ac ynysoedd trawiadol yn y môr. Mae Llanbedrog mewn llecyn cysgodol ar Arfordir Deheuol y penrhyn, wedi’i gysgodi’n dda gan bentir gwyrddlas ac amlwg Llanbedrog.
Traeth Llanbedrog
Y prif atyniad arfordirol yw traeth tywodlyd hir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’i ddyfroedd bas clir, y rhes liwgar adnabyddus o gytiau traeth tlws ac awyrgylch hyfryd Bar Traeth Llanbedrog. Cafodd y traeth hwn sy’n addas i deuluoedd a chŵn ei enwi’n un o draethau gorau Gogledd Cymru, ac mae’n lle perffaith i dreulio diwrnod traddodiadol ar y traeth yn padlo, nofio a mwynhau’r haul. Os gallwch lusgo’ch hun oddi ar y traeth ac allan o’r dyfroedd pefriog clir, yna ewch am dro drwy goetiroedd Pentir Llanbedrog i ben Mynydd Tir-y-Cwmwd. Ar ben y pentir, yn ogystal â golygfeydd syfrdanol dros Lanbedrog ac Abersoch, fe welwch hefyd y dyn tun, sef y cerflun 6 troedfedd enwog sy’n cadw llygad ar y bae. I gael rhagor o fanylion am y cyfleusterau a’r diweddaraf am Draeth Llanbedrog, gwelwch ganllaw gwych yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yma.
Carreg y Defaid
Wrth fynd tuag at Bwllheli mae traeth Carreg y Defaid. Gallwch ei gyrraedd drwy droi oddi ar yr A499 neu drwy fynd ar lwybr yr arfordir, ac mae Carreg y Defaid yn draeth tawelach lle gallwch fynd â’ch ci. Mae’r traeth tywod a siâl wedi’i ddiogelu’n dda gan bentir bach creigiog ac mae’n lle gwych i ddianc oddi wrth y torfeydd. Yn aml iawn, mae cerddwyr yn pasio ar lwybr yr arfordir ac mae pysgotwyr yn cyrraedd yn gynnar gyda’r nos i fanteisio ar y brigiad creigiog a’r môr dwfn islaw. Mae traeth Carreg y Defaid yn ymestyn ac yn uno â thraeth Pwllheli gan gynnig taith gerdded ddi-dor wych i mewn i’r dref arfordirol.
Traeth Chwarel
Mae Traeth Chwarel yn gorwedd o dan ochr orllewinol pentir Llanbedrog, ym mhen pellaf traeth y Warren. Gallwch gyrraedd y traeth tywodlyd llydan hwn ar ffordd untrac, ar hyd y llwybr arfordirol neu o’r Warren, ac mae’n draeth ysblennydd. Mwynhewch badl neu drochiad yn y dyfroedd bas neu eisteddwch ar y creigiau a gwylio’r cychod yn mynd heibio. Mae’n lle gwych i fwynhau gwylio’r wawr yn torri a, phan fydd y llanw’n isel, byddwch yn gweld adfeilion eiconig yr hen lanfa y mae pobl yn tynnu lluniau ohoni yn aml. Gallwch fynd â chŵn ar Draeth Chwarel a gwelwch yr erthygl wych hon ar Abersoch Life i gael rhagor o wybodaeth am y perl cudd hwn.
Rydyn ni wedi ein bendithio go iawn gan ein harfordir prydferth ar Ben Llŷn, ac i gael mwy fyth o fanylion am fwy o draethau a childraethau, gwelwch Abersoch Life, abersoch.co.uk a The Good Beach Guide.