They say, ‘All the World’s a Stage!’ and last week Llanbedrog became the stage! Illyria theatre company returned, on 29th July 2021, to present The Further Adventures of Dr Doolittle at John Andrews Theatre, the outdoor amphitheatre, at the imposing Oriel Plas Glyn y Weddw in Llanbedrog.
For many of us this was the first taste of the theatre and the first ‘proper’ night out in many months following the Covid19 pandemic and associated restrictions. There was a palpable excitement amongst the audience and the cast as groups of families and friends took their seats on the stunning stone steps of the amphitheatre and awaited the start of the show. The 250-capacity theatre was electrified as the cast moved to the stage and the first act began. Lockdown unlocked, theatre reinvigorated and an arts community reborn.
The 19th century Gothic art gallery, the blue waters of Cardigan Bay, the dense 12-acre woodland, Llanbedrog’s dramatic headland and the Snowdonia Mountains rising in the far distance creates a unique and truly magnificent stage backdrop for every production at John Andrews Theatre. Bi-lingual theatre, open-air cinema and concerts can all be enjoyed here.
Dr Doolittle didn’t disappoint! As the first act came to a close, the sun set, daylight conceded and the stage lighting illuminated the stage and the atmosphere alike. Children’s eyes glistened in the dark as they concentrated on the performance, laughter filled the sea air and the odd wine glass clinked as the evening came to a crescendo.
The harmonious pairing of Oriel Plas Glyn y Weddw and Illyria made for a safe and stunning evening and for those that weren’t lucky enough to get tickets in July, Illyria are set to return to Llanbedrog in August 2021 with another performance of The Further Adventures of Dr Doolittle and Much Ado About Nothing. We are fortunate enough to have this elegant facility and theatre within walking distance of Tremfan Lodge Park so, please do, check out the what’s on listing at Oriel Plas Glyn y Weddw or pop into the stunning gallery and café for more information.
Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Lanbedrog
Maen nhw’n dweud mai ‘Llwyfan yw Bywyd! ‘ a’r wythnos diwethaf Llanbedrog oedd y llwyfan! Dychwelodd cwmni theatr Illyria, ar 29 Gorffennaf 2021, i gyflwyno The Further Adventures of Dr Doolittle yn Theatr John Andrews, yr amffitheatr awyr agored, yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog.
I lawer ohonom, dyma’r profiad cyntaf o fyd y theatr a’r noson allan gyntaf ‘go iawn’ ers misoedd yn dilyn pandemig Covid19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig. Roedd cyffro i’w deimlo ymysg y gynulleidfa a’r cast wrth i grwpiau o deuluoedd a ffrindiau eistedd ar stepiau cerrig trawiadol yr amffitheatr i aros i’r sioe ddechrau. Daeth y theatr, sydd â lle i 250 o bobl, yn fyw wrth i’r cast symud i’r llwyfan a dechrau’r act gyntaf. Cyfyngiadau wedi’u codi, theatr wedi’i ail-danio a chymuned gelfyddydol yn cael ei haileni.
Mae’r oriel gelf Gothig o’r 19eg ganrif, dyfroedd glas Bae Ceredigion, y coetir 12 erw trwchus, pentir dramatig Llanbedrog a mawredd Mynyddoedd Eryri yn y pellter yn creu cefndir unigryw a gwirioneddol wych i’r llwyfan ar gyfer pob cynhyrchiad yn Theatr John Andrews. Gellir mwynhau theatr ddwyieithog, sinema awyr agored a chyngherddau yma.
Wnaeth Dr Doolittle ddim siomi! Wrth i’r act gyntaf ddod i ben, roedd yr haul yn machlud, golau dydd yn darfod a goleuadau’r llwyfan yn goleuo’r llwyfan a’r awyrgylch fel ei gilydd. Roedd llygaid y plant yn disgleirio yn y tywyllwch wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar y perfformiad, roedd chwerthin yn llenwi awyr y môr a thinc ambell wydr gwin i’w glywed wrth i’r noson ddod i grescendo.
Roedd Oriel Plas Glyn y Weddw ac Illyria yn gyfuniad gwych a chafwyd noson ddiogel a phenigamp. I’r sawl na fu’n ddigon ffodus i gael tocynnau ym mis Gorffennaf, bydd Illyria yn dychwelyd i Lanbedrog ym mis Awst 2021 gyda pherfformiad arall o The Further Adventures of Dr Doolittle a Much Ado About Nothing. Rydym yn ffodus fod y cyfleusterau a’r theatr arbennig yma o fewn pellter cerdded i Barc Tremfan Lodge felly, edrychwch ar y dudalen Beth Sy’ Ymlaen yn Oriel Plas Glyn y Weddw neu galwch heibio i’r oriel a’r caffi trawiadol i gael rhagor o wybodaeth. neu galwch heibio i’r oriel a’r caffi trawiadol i gael rhagor o wybodaeth.