Llanbedrog beach huts are back!
This week marks the return of the National Trust’s pretty beach huts to Llanbedrog beach. Llanbedrog’s white sandy beach, surrounded by lush trees and protected by the headland, is breath-taking at all times of year. In the summer, the colourful beach huts line the sand enhancing the natural beauty of the bay and signalling the start of summer.
In 2020, the Covid-19 pandemic kept the beach huts away and even when families and friends were once again allowed to meet on the sand and play in the water, there was a sense that something was missing. Over the coming week, the National Trust is working hard to get all the beach huts from the top car park onto the beach. At the weekend, tenants will eagerly collect their keys and settle themselves in for another season of Welsh beach hut life.
Local beach hut history
Beach huts and bathing machines have been popular in the UK since Victorian times, initially used by the wealthy to hide their modesty as they headed to the seaside for pleasure and the medicinal benefits of the coastal air. In Abersoch, mobile ‘bathing machines’ appeared at the turn of the century and were replaced by static beach huts in the 1920’s.
As post-war seaside tourism boomed, and with a tramway linking Pwllheli and Llanbedrog, Llanbedrog became a popular holiday destination and people flocked to the beach. Tents had been initially erected on Llanbedrog beach for hire, offering privacy and protection from the sun, and rain! Beach huts soon replaced the tents. The beach huts were similar to today’s design, in the same location and remained available for hire for decades. In 2006, the National Trust took ownership of Llanbedrog beach and car park, making significant improvements and introducing the pretty beach huts of today.
Local beach huts today
After 100 years beach huts remain as popular as ever and have become an aspirational accessory to modern British beach living. In Abersoch, beach huts regularly sell for over £150k, but in Llanbedrog you can sample beach hut life for a more affordable £400 per season.
So, whether you get the chance to own or rent a beach hut, or simply enjoy seeing them adorn our local beaches remember, they are not only something to appreciate today but also a key part of the history of our local area and an asset for future generations to enjoy.
Mae cytiau glan môr Llanbedrog yn ôl!
Wythnos yma mae cytiau lan môr prydferth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ôl ar draeth Llanbedrog. Mae traeth Llanbedrog a’i dywod gwyn, wedi’i amgylchynu gan goed gwyrddlas a’i warchod gan y pentir, yn olygfa drawiadol bob amser o’r flwyddyn. Yn yr haf, mae’r cytiau glan môr lliwgar yn llinell ar hyd terfyn y tywod gan ychwanegu at harddwch naturiol y bae. Mae’n arwydd o ddechrau’r haf.
Yn 2020, oherwydd y pandemig Covid-19 symudwyd y cytiau oddi ar y traeth a hyd yn oed pan gafodd teuluoedd a ffrindiau gyfarfod unwaith eto ar y tywod a chwarae yn y dŵr, roedd teimlad bod rhywbeth ar goll. Yn ystod yr wythnos nesaf, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio’n galed i symud yr holl gytiau glan môr o’r maes parcio uchaf i’r traeth. Dros y penwythnos, bydd tenantiaid yn casglu eu hallweddi gan edrych ymlaen yn eiddgar i ymgartrefu am dymor arall o fywyd mewn cwt lan môr yng Nghymru.
Hanes cytiau traeth lleol
Mae cytiau traeth a pheiriannau ymdrochi wedi bod yn boblogaidd yn y Deyrnas Unedig ers oes Fictoria, ar y dechrau caent eu defnyddio gan bobl gyfoethog i gadw’n barchus wrth iddyn nhw fynd i lan y môr i fwynhau a chael budd o wynt y môr. Yn Abersoch, ymddangosodd ‘peiriannau ymdrochi’ symudol ar droad y ganrif a daeth cytiau traeth statig yn eu lle yn yr 1920au.
Wrth i dwristiaeth glan môr ar ôl y rhyfel ffynnu, a chyda thramffordd yn cysylltu Pwllheli a Llanbedrog, daeth Llanbedrog yn gyrchfan wyliau boblogaidd a heidiodd pobl i’r traeth. Codwyd pebyll i ddechrau ar draeth Llanbedrog i’w llogi, gan gynnig preifatrwydd ac amddiffyniad rhag yr haul, a’r glaw! Yn fuan iawn codwyd cytiau traeth yn lle’r pebyll. Roedd y cytiau traeth yn debyg i ddyluniad heddiw, yn yr un lleoliad ac roeddent yn dal i fod ar gael i’w llogi am ddegawdau. Yn 2006, cymerodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol berchnogaeth ar draeth a maes parcio Llanbedrog, gan wneud gwelliannau sylweddol a chyflwyno’r cytiau traeth tlws a welwch heddiw.
Cytiau traeth lleol heddiw
Ar ôl 100 mlynedd mae cytiau traeth yn parhau i fod mor boblogaidd ag erioed ac maent wedi dod yn rhywbeth i’w chwennych i’r rhai sydd am dreulio amser ar y traeth. Yn Abersoch, mae cytiau traeth yn gwerthu am dros £150k yn rheolaidd, ond yn Llanbedrog gallwch flasu bywyd y cytiau traeth am £400 mwy fforddiadwy y tymor.
Felly, p’un a ydych chi’n cael cyfle i fod yn berchen ar gwt traeth neu ei rentu, neu’n mwynhau eu gweld yn addurno ein traethau lleol, cofiwch, maen nhw nid yn unig yn rhywbeth i’w werthfawrogi heddiw ond hefyd yn rhan allweddol o hanes ein hardal leol ac yn ased ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i’w mwynhau.