Mae 20 o gabanau gwyliau unigryw yn Tremfan Lodge Park, oll ar leiniau unigol. Mae pob caban gwyliau’n swatio’n gyfforddus yn nhirwedd a thopograffi’r parc, gan gyfuno bywyd carafán yn naturiol â’r amgylchedd lleol. Mae’r safle hyfryd hwn a reolir yn broffesiynol gyda’i gynllun organig, ei leoliad yn y coetir a’i olygfeydd panoramig o’r môr, yn golygu ei fod yn un o’r parciau carafannau mwyaf dymunol yng Ngogledd Cymru.
Mae pob carafán ar Tremfan Lodge Park wedi’i gyflenwi a’i leoli gan Môn Caravans sydd wedi’i seilio ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Mae gan Môn Caravans wybodaeth gynhwysfawr am garafanau a chabanau gwyliau ac maen nhw’n cyflenwi holl brif wneuthurwyr cartrefi gwyliau Prydain, gan gynnig amrywiaeth eang o fodelau a dyluniadau. Am fod ganddo ddegawdau o brofiad a gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, mae Môn Caravans yn gweithio’n broffesiynol i ddarparu a lleoli pob carafán yn unol â safonau manwl gywir.
Mae pob caban gwyliau mewn perchnogaeth breifat ac nid oes caniatâd i isosod neu rentu. Mae hyn yn diogelu’r gymuned o berchnogion ac yn cadw’r diwylliant tawel sydd wedi datblygu. Mae’r safle’n agored rhwng mis Mawrth a mis Ionawr, gan gau am ddim ond chwe wythnos y flwyddyn, felly gall perchnogion y cabanau gwyliau fwynhau Llanbedrog ac Abersoch ym mhob tymor. Mae croeso ar y safle i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ac mae’r ardal leol yn darparu toreth o bethau i’ch cyfaill pedair coes ei fwynhau.
Mae Tremfan Lodge Park yn aelod o Gymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain (BH&HPA). Y BH&HPA yw’r unig sefydliad yn y DU a sefydlwyd i gynrychioli a gwasanaethu’r bobl sy’n rheoli neu sy’n berchen ar barciau gwyliau a pharciau preswyl, pebyll, teithiol a glampio. Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth o’r radd orau i’w haelodau am y diwydiant ac mae hyn yn arwain at well rheolaeth ar barciau lleol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn berchen ar eich caban gwyliau eich hun ym Mharc Tremfan Lodge a mwynhau bywyd caban gwyliau yn Llanbedrog yna peidiwch ag oedi, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.