Sefydlwyd Parc Tremfan Lodge gyntaf fel rhan o Westy a Chlwb Gwledig Tremfan Hall ym 1961. Mae’r safle coetir pum erw wedi’i lleoli uwchben pentref Llanbedrog sy’n cynnig golygfeydd helaeth o’r môr a chefn gwlad tuag at Bentir Llanbedrog, traeth Llanbedrog, Pwllheli, Porthmadog, Eryri a thu hwnt i Fae Aberteifi.
Wedi’i leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dynodedig, mae’r parc yn gartref i 20 porthdy unigryw ac mae gan bob un ohonynt lain, lleoliad a golygfa unigol. Nod Parc Tremfan Lodge yw amddiffyn a meithrin yr amgylchedd naturiol. Mae pob porthdy wedi’i leoli’n sympathetig gan roi’r effaith weledol ac amgylcheddol leiaf posibl, mae cynllun plannu trwy gydol y flwyddyn ar waith, caiff yr holl wastraff ei ailgylchu a chaiff cynhyrchion naturiol eu defnyddio lle bo hynny’n bosibl wrth ddatblygu ein safle.
Am dros 50 mlynedd, mae’r parc wedi bod yn ffodus i fod o dan berchnogaeth a gofal rhai teuluoedd lleol adnabyddus gan gynnwys y teulu Jolly a’r teulu Skinner. Roedd y teuluoedd yn rhedeg y neuadd a’r parc carafannau tan 2019 pan rannwyd y maes carafannau a’r neuadd. Mae’r Teulu Skinner yn parhau i weithredu’r parc carafannau enwog, Tremfan Hall gan gynnig rhai o fwydydd gorau Gogledd Cymru ochr yn ochr â llety bwtîc hardd. Cymerodd y Teulu Grant berchnogaeth o’r maes carafannau yn 2019 ac fe’i gelwir bellach yn Barc Tremfan Lodge.