2021 – The Year of The Caravan!
Surely, 2019 and 2020 will only ever be remembered for the Covid-19 pandemic. The future for many people remains uncertain and it is can hard to find unbounding optimism in these difficult times. Whilst the caravan park and holiday park industry have experienced tough times with national and regional lockdowns, the future looks bright.
Restrictions on international travel and high customer disinclination to travel abroad has led to a boom in the staycation market with many of us rediscovering what is available on our local and national doorsteps. The increase in staycations has also led to an increase in the demand for motorhomes, caravans, lodges and chalets. All self-contained accommodation where social distancing can easily be maintained.
Holiday parks have reported they are inundated with enquiries from potential owners looking for vacant pitches, whilst caravan and lodge manufacturers are struggling to meet demand with lead times of up to 18 months for a new unit.
On the 3rd September 2020, the BBC reported that one caravan sales agent had “made back the lost four months, and the majority of that is from newcomers into the industry”. An industry bounce-back beyond expectations! Caravan parks in Wales are seeing an exponential growth as people flock to the coasts, mountains, forests and all-round natural beauty it offers. With fire break lockdowns, a second national lockdown and tier systems, the uncertainty around travel restrictions is set to continue in the short term.
Yet, for caravan manufactures and site owners the order books are filling up and the escalating demand for pitches creates some commercial certainty. Maybe the one thing we can confidently predict is that 2021 will be the Year of Caravan.
2021 – Blwyddyn y Garafan!
Siawns na fydd 2019 a 2020 yn cael eu cofio am unrhyw beth ond y pandemig Covid-19. Mae’r dyfodol i lawer o bobl yn parhau i fod yn ansicr a gall fod yn anodd canfod optimistiaeth ddiddiwedd yn yr amseroedd anodd hyn. Er bod y diwydiant meysydd carafanau a pharciau gwyliau wedi profi amseroedd anodd gyda chyfnodau clo cenedlaethol a rhanbarthol, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.
Mae cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol ac amharodrwydd mawr cwsmeriaid i deithio dramor wedi arwain at ffyniant yn y farchnad gwyliau gartref gyda llawer ohonom yn ailddarganfod yr hyn sydd ar gael ar ein stepen drws lleol a chenedlaethol. Mae’r cynnydd mewn gwyliau gartref hefyd wedi arwain at gynnydd yn y galw am gartrefi modur, carafanau, cabanau gwyliau a hafotai. Pob llety hunangynhwysol lle mae’n hawdd cynnal pellter cymdeithasol.
Mae parciau gwyliau wedi nodi eu bod yn derbyn llu o ymholiadau gan ddarpar berchnogion sy’n chwilio am leiniau gwag, ac mae cynhyrchwyr carafanau a chabanau gwyliau’n ei chael hi’n anodd ateb y galw gyda hyd at 18 mis o amser aros am unedau newydd.
Ar 3 Medi 2020, adroddodd y BBC fod un asiant gwerthu carafanau wedi “ad-ennill yr arian a gollodd dros y pedwar mis coll, a bod y mwyafrif o hwnnw wedi dod gan newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant”. Adferiad y diwydiant yn llawer gwell na’r disgwyl! Mae parciau carafanau yng Nghymru’n gweld twf esbonyddol wrth i bobl heidio i’r arfordiroedd, mynyddoedd, coedwigoedd a’r harddwch naturiol cyffredinol y mae’n ei gynnig. Gyda chyfnodau clo byrion, ail gyfnod clo cenedlaethol, a systemau haenau, mae disgwyl i’r ansicrwydd ynghylch cyfyngiadau teithio barhau yn y tymor byr.
Ac eto, i’r cynhyrchwyr carafanau a pherchnogion safleoedd mae’r llyfrau archebion yn llenwi ac mae’r galw cynyddol am leiniau yn creu rhywfaint o sicrwydd masnachol. Efallai mai’r un peth y gallwn ei ragweld yn hyderus yw mai 2021 fydd Blwyddyn y Garafán.